Gollyngiad

Gollyngiad gwerthyd: (c) yr olwyn goron, (v) y gwerthyd, (p,q) y paledau.
Gollyngiad gwerthyd yn symud.

Mecanwaith sy'n rheoli mudiant o fewn cloc neu oriawr yw gollyngiad.[1] Mae'n rheoli'r ynni a drosglwyddir o ffynhonnell pŵer y ddyfais i'r fecanwaith sy'n cyfri amser.[2]

Ar ei ffurf glasurol, roedd y gollyngiad gwerthyd (13g) yn cynnwys olwyn gêr siâp coron a yrrir gan bwysau ac yn ei rheoli gan ddau baled metel sy'n atal dannedd y gêr. Gosodir y paledau ar werthyd fertigol, a rheolir buanedd eu siglo gan groesfar ar eu pennau sy'n dal dau bwysyn bychan. Gellir arafu'r siglo drwy symud y pwysau yn bellach o ganol y gwerthyd.[3]

Gollyngiad angor, a ddefnyddir mewn clociau pendil.

Dyfeisiwyd y gollyngiad angor yn Lloegr yn yr 17g. Mae'n gweithio gyda phendil ac yn galluogi sigladau llawer llai eu maint na'r gollyngiad gwerthyd. Mae'r paledau mewn siâp angor â'i ben i waered. Erbyn heddiw y cysyniad o wahaniad yw datblygiad pwysicaf y gollyngiad, hynny yw i ddatod y gollyngiad o'r osgiladur i alluogi'r osgiladur i siglo cymaint ag sy'n bosibl.[3]

  1. Geiriadur yr Academi, [escapement].
  2. Donald de Carle. Watch and Clock Encyclopedia, 3ydd argraffiad (Ipswich, N.A.G. Press, 1983), t. 80.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) escapement. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2015.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search